Skip to main content

Gweithgareddau ffair gyrfaoedd – trosolwg

Gweithgareddau ffair gyrfaoedd – trosolwg


Mae'r pecyn hwn o adnoddau ffair gyrfaoedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i ddewis ohonynt. Gellir cyflwyno'r gweithgareddau hyn ar eu pen eu hunain neu gallwch ddefnyddio cyfuniad o weithgareddau. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i fod yn fan cychwyn a gellir eu haddasu i gyd-fynd ag unrhyw gyd-destun lleol.

Mae tri gweithgaredd gwahanol:

  1. Cwestiwn caeedig
  2. Cwestiwn agored
  3. Delwedd

Gweler y gweithgareddau hyn mewn gwahanol ffolderi. Mae pob ffolder yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gyflawni'r gweithgaredd yn ogystal â nifer o feintiau a fersiynau o'r gweithgaredd fel y gallwch ddewis yr hyn sydd orau i chi ac ar gyfer yr offer sydd gennych. Gellir argraffu'r adnoddau neu eu harddangos ar sgrin.

Mae'r gweithgareddau hyn yn amlbwrpas iawn a gellid eu defnyddio mewn gwahanol leoliadau hefyd fel mewn ystafell ddosbarth neu wasanaeth ysgol.

 

Gweithgaredd cwestiynau caeedig

Mae'r gweithgaredd hwn yn gwestiwn i fyfyrwyr feddwl amdano. Mae gan y cwestiwn ateb rhifiadol cywir.

Gellir gwneud y gweithgaredd hwn mewn sawl ffordd. Gellir ei ddefnyddio fel anogwr trafodaeth neu fel gweithgaredd arddull ‘dyfalu faint o losin sydd yn y jar’ lle mae’r myfyrwyr yn ysgrifennu eu henw wrth ymyl ateb ac yna rhoddir gwobr i’r ateb cywir.

Mae’r ffeil yn cynnwys:

  • Cyfarwyddiadau’r gweithgaredd
  • Anogwyr trafodaeth gweithgaredd – cwestiynau awgrymedig i'w gofyn, atebion posibl y gallai'r myfyriwr eu rhoi ac ymatebion awgrymedig
  • Gweithgaredd A4 – daw gyda dewisiadau i gynnwys delwedd neu ddim, yn ogystal â lliw, a du a gwyn.
  • Gweithgaredd A3 – daw gyda dewisiadau i gynnwys delwedd neu ddim, yn ogystal â lliw, a du a gwyn.
  • Rhestr o gwestiynau caeedig – dyma ddewisiadau eraill y gallech ddewis eu defnyddio.
  • Gridiau dyfalu – mae'r rhain ar gael mewn A4 ac A3 ac maen nhw'n rhifiadol ac yn ganrannau fel y gallwch chi ddewis yr un gorau ar gyfer eich cwestiwn dewisol.

Gweithgaredd cwestiwn agored

Mae'r gweithgaredd hwn yn gwestiwn i fyfyrwyr feddwl amdano. Nid oes ateb cywir i'r cwestiwn a'i nod yw hwyluso trafodaeth.

Mae’r ffeil yn cynnwys:

 

Gweithgaredd delwedd

Mae'r gweithgaredd hwn yn ddelwedd i fyfyrwyr ei hastudio a meddwl amdani. Mae cwestiynau wedi'u cynllunio i hwyluso trafodaeth ynghylch y ddelwedd.

Mae’r ffeil yn cynnwys:

Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys dogfennau gyda chyngor ar sut i gyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc a dogfen gyda gweithgaredd bach i ysgogi trafodaeth am y sgiliau sydd eu hangen ar gynllunydd.