Skip to main content
Close Menu Open Menu

Creu Lleoedd….lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Creu Lleoedd yw ffordd Llywodraeth Cymru o wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r system gynllunio. Yn ystod yr “Eisteddfod Amgen” (yr Eisteddfod rhithiol) ym mis Awst, mi wnaeth Owain Wyn, BURUM a Dr Kathryn Jones: IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith gyflwyno gweminar yn trafod cynllunio defnydd tir yng Nghymru o safbwynt “Cymru…. lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”, ac yn benodol, targed y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r erthygl hon gan Owain yn crynhoi’r cyflwyniad hwnnw ac yn trafod beth all ac y dylai cynllunwyr wneud yn rhyngddisgyblaethol i gryfhau cyfraniad Creu Lleoedd i’r ymdrech genedlaethol.

 

Mae cyd-destun deddfwriaethol y papur hwn yn ddeublyg. I ddechrau, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy fel un o’i saith nod, “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.  Yn ail, tra nad yw Deddf Cynllunio (Cymru) yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r mater o sicrhau iaith Gymraeg sy’n ffynnu, mae’n trafod cynllunio datblygiad a’r Gymraeg yn nhermau osgoi achosi niwed. “Rhaid i’r arfarniad (au) .... gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y polisïau yn y Fframwaith / cynllun drafft ar ddefnydd y Gymraeg.”[1]

Mae’r cyd-destunau strategol a pholisi wedi datblygu yn sylweddol ers y Deddfau yma yn 2015.  Cyhoeddwyd Cymraeg 2050[2] ym mis Mehefin 2017 gan nodi gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cofnodwyd tua 560,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 – felly mae hyn yn golygu cynnydd o 440,000.  Y mae i’r fframwaith polisi ddwy thema arall.  Yr ail thema yw i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy ddyblu’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol o 10% yn 2013 i 20% erbyn 2050 – eto, cynnydd o tua 300,000.  Y drydedd thema yw creu amodau a chyd-destun cymdeithasol ac economaidd ffafriol ar gyfer y cynnydd yma, ac mae’n ymwneud yn uniongyrchol â rôl Creu Lleoedd.

Mae ffocws Llywodraeth Cymru o ran y cynnydd mewn siaradwyr yn bennaf ar greu siaradwyr drwy’r system addysg cynradd ac uwchradd, ac ar gynnal gallu ieithyddol yn dilyn addysg.  Mae’r taflwybr yn gweld  cynnydd o tua 230,000 erbyn 2043 (ers 2011).

Rhagamcanir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS ) y bydd poblogaeth Cymru dros 3 oed tua 3.25milliwn erbyn 2043.[3] Fel cyfran o’r boblogaeth a ragamcenir, felly, mae’r taflwybr yn rhagweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn nhermau canrannau o 19% yn 2011 i ychydig dan 26% - sef tua 1 o bob 4 – erbyn 2043.

Ffigwr 1: Cymraeg 2050: Taflwybr a Rhagamcaniad

Ffynhonell: Ystadegau’r Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru (2018) Adroddiad technegol: Amcanestyniad a thaflwybr nifer y siaradwyr Cymraeg tair oed a throsodd, 2011-2050

Mae’r cyfnod nesaf yma o fewn amserlen y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, yn fwy na thebyg o fewn amserlen y Cynlluniau Datblygiad Strategol, ac yn gynyddol y Cynlluniau Datblygu Lleol wrth iddynt cael eu hadolygu ac i Ail Rownd y Cynluniau datblygu (LDP2s) gael eu creu.

Fodd bynnag, hyd yn hyn, ychydig iawn o dystiolaeth sydd i ddangos fod Llywodraeth Cymru – drwy Cymraeg 2050 a Creu Lleoedd - yn mynd i’r afael â ble mae’r cynnydd o 200,000 i ddigwydd ac a ydyw wedi ystyried – yn ddigon manwl ac eglur – pa gyd-destunau economaidd a chymdeithasol sydd eu hangen i alluogi’r cynnydd.

Er iddynt gael eu cyhoeddi ar ôl Cymraeg 2050, ac er iddynt annog cefngoaeth ar gyfer yr iaith - dim ond ychydig o fanylion penodol sydd gan i TAN 20 (2017) a Pholisi Cynllunio Cymru rhifyn 10 (2018 ar sut y gallai neu a ddyla Creu Lleoedd chwarae rhan mewn galluogi’r Gymraeg ffynnu fel iaith gymdeithasol.

Mae gan Cymru’r Dyfodol – y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol [4]  “Cymru lle mae pobl yn byw .......mewn lleoedd lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu” fel un o 11 canlyniad.  Mae’n galondid yn awr i weld ei fod yn cynnig “fod yr iaith yn cael ei hytyried yn strategaeth ofodol pob cynllun datblygu”.  Mae’r testun cefnogol ar pob un o’r bedair rhanbarth hefyd yn cynnwys cyferiiad at waelodlin y nifer o siaradwyr Cymraeg ac yn cynnwys canllaw sy’n annog “mae'n bwysig bod Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol yn ystyried y gydberthynas rhwng tai strategol, trafnidiaeth a thwf economaidd, a'r Gymraeg” ac y dylai Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol “gynnwys hierarchaethau aneddiadau a pholisïau dosbarthu twf sy'n creu'r amodau i'r Gymraeg ffynnu a pharhau i fod yn iaith gymunedol (beunyddiol yn y De Ddwyrain)  Er hynny, nid oes ganddo Bolisi Gofodol Strategol penodol a fyddai’n gallu adnabod a chefnogi lle y gall datblygiadau gael eu hannog i gefnogi ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd neu i alluogi’r iaith i ddatlbygu fel rhan naturiol ffyniannus o gymunedau a thrwy hynny, gefnogi’r canlyniad.

Rwy’n gwerthfawrogi wrth gwrs na all Creu Lleodd ystyried y Gymraeg yn ynysig. Ond, heb os, onid yw darparu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel â iaith Gymraeg sy’n ffynnu yn golygu integreiddio meysydd polisi yn well a chael chydweithio gwell rhwng cynllunwyr ieithyddol a gofodol?  Bydd cael rhagolwg integredig ac ar y cyd o safbwynt datrys problemau yn help i fynd i’r afael â rhai “materion cynhennus” allweddol.

Un o’r problemau, os nad y brif broblem, wrth graidd y mater yw’r angen am well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ffenomenon ddiwylliannol a chymdeithasol fel iaith a datblygiad defnydd tir.  Ryn ni gyd yn dweud pethau cadarnhaol ynglŷn â chreu’r amodau cywir i’r iaith Gymraeg fynnu, ond sut all Creu Lleoedd wella’r amodau i annog a chreu cynnydd yn y nifer a’r canran o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ogystal â chynnydd yn y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol?  Mewn geiriau eraill, beth all Cynllunio wneud?

Yn hanesyddol mae “datblygiad” wedi cael ei weld fel rhywbeth sy’n cael effaith andwyol ar yr iaith yng Nghymru.  Fodd bynnag, mi wnaeth y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru barhau i gynyddu tan Cyfrifiad 1911, gan gyd-daro â thwf diwydiannau echdynnol a diwydiannu yng Nghymru.  Heb or-symleiddio, canlyniad rhyfeloedd, y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel, ymfudo, diffyg statws cymharol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, ailstrwythuro economaidd a pholisi addysg (tan y nawdegau), diffyg trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ac effaith mewnfudo sylweddol dros yr hanner can mlynedd diwethaf (y tu hwnt i allu cymunedau lleol i amsugno cynnydd o'r fath) sydd, at ei gilydd, wedi arwain i raddau helaeth at y gostyngiad yn nifer a chyfran siaradwyr Cymraeg.

 Ffigur 2: Dosbarthiad y Llinell Sylfaen : Cyfran y bobl oed 3 a throsodd a oedd yn gally siarad Cymraeg yn ôl hane dwysedd

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru (atgynhyrchwyd yn Cymraeg 2050)

Mewn egwyddor, mi ddylai datblygiad cynaliadwy olygu datblygiad o faint a mewn lleoliad nad yw’n mynd y tu hwnt i gapasiti cymunedau i gymryd y fath ddatblygiad.  Mi wneith hyn hefyd ganiatáu cynhyrchu ac atgynhyrchu’r niferoedd a’r cyfradd o siaradwyr – ac yn gyfle hefyd i ddefnyddio arfau, mewn cyfuniad, i greu’r amodau cywir ar gyfer defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Yn ail, er mwyn helpu Creu Lleoedd, mae angen i gynllunwyr gofodol a ieithyddol nodi elfen ofodol gliriach i'w nodau.  Nid yw Cymraeg 2050 yn mynd i'r afael â ble mae cynnydd i ddigwydd.  Mae TAN 20 yn siarad am ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol ond hefyd, yn allweddol, am ardaloedd arwyddocaol ieithyddol.  Fodd bynnag, nid yw'n mabwysiadu dull rhagnodol ond, yn hytrach, mae'n gosod y cyfrifoldeb ar awdurdodau cynllunio lleol i nodi ardaloedd o'r fath.  Tybir felly bod ACLl i edrych ar sensitifrwydd neu arwyddocâd mewn cyd-destun lleol yn hytrach na chyd-destun cenedlaethol.

Mae’r rhan fwyaf, os nad pawb, yn derbyn, os yw iaith i oroesi fel iaith bob dydd ac yn ffenomenon gymdeithasol tu hwnt i’r cartref, mae angen Cadarnle arni. Ond os yw’r rhan fwyaf o’r cynnydd o 230,000 (a chyfrannau a defnydd) i ddod o’r ardaloedd dinesig yng ngogledd ddwyrain a de ddwyrain Cymru, pa oblygiadau sydd i gynllunio datblygiad a gwneud penderfyniadau?  Yng nghyd-destun poblogaeth genedlaethol sy’n gymharol statig erbyn canol y 30au, bydd gan benderfyniadau am raddfa a lleoliad datblygiadau bwysigrwydd allweddol ar gyfer cynllunio ieithyddol.

Bydd gweithio ar draws Cymru’n golygu dulliau gweithredu gwahanol.  Fodd bynnag, yn hytrach na derbyn eu maen prawf fel y presennol neu’r gorffennol agos, mae angen i ACLlau ddeall y gwahaniaeth y gall dewisiadau graddfa a lleoliad amrywiol yn y CLl ei wneud yn nhermau taflwybr y dyfodol (y rhagdybiaeth “busnes fel arfer” ynglŷn â Cymraeg 2050).  Yn wir, pam na ddylai ACLlau ystyried opsiwn “dan arweiniad yr iaith Gymraeg” (ar y cyd ag opsiynau fel dan arweiniad twf economaidd, dan arweiniad twf aelwydydd, dan arweiniad gwytnwch natur) fel un o’r opsiynau amgen rhesymol ar gyfer cwblhau eu Arfarniad Cynaladwyedd Integredig?

Mae dadansoddiad o ymatebion (Rheoliad 15) a/neu wrthwynebiadau (Rheoliad 17) diweddar Llywodraeth Cymru i’r don gyntaf o adolygiadau CDLl, boed ar gam Strategaeth ddewisol, y cam cyn-adneuo (pre-Deposit) neu’r cam Adneuo  (Deposit), i’w weld yn cefnogi’r farn hon.  Ymddengys bod gan ymatebion y Gangen Gynlluniau themâu cyffredin:

  • Mae angen i’r ACLlau penodol ddangos yn gliriach sut mae’r angen i amddiffyn a gwella’r Gymraeg wedi dylanwadu ar eu dewis o raddfa a dosbarthiad gofodol ar gyfer twf.
  • Diffyg tystiolaeth, eglurder neu sicrwydd a yw, neu sut mae, yr ACLl penodol wedi ystyried yr angen i adnabod meysydd o sensitifrwydd ieithyddol (sylwer – nid pwysigrwydd)
  • Yr angen i fwy o ACLlau fabwysiadu polisi iaith Gymraeg i fynd i’r afael â chynigion nas rhagwelwy

Hefyd, hyd yma mae’n ymddengys fod effaith y Gymraeg ar y dewis o raddfa  a dosbarthiad gofodol ar gyfer twf yn cael eu trafod gan rai ACLLau, ond nid eraill.  Mae’n aneglur pa feini prawf y bu’r Gangen Cynlluniau yn ei defnyddio i benderfynu pa ACLlau sy’n “sensitif” a/neu “arwyddocaol” o safbwynt Creu Lleoedd.  Fe ddylai’r agwedd hon ddod yn gliriach o hyn allan gan y newidadau a wnaed i’r ddogfen Cymru’r Dyfodol a gyfeiriwyd ato uchod lle cynigir fod yr iaith yn cael eui ystyried ymhob strategaeth ofodol cynlluniau datblygu.

Yn drydydd, mewn perthynas a chyfraniad Creu Lleoedd, mae angen cyflymu ein hymdrechion monitro a gwerthuso i ddeall effaith cynlluniau ar yr iaith Gymraeg.  Er i’r Gymraeg gael ei chydnabod fel ystyriaeth ddichonadwy yn y broses gynllunio a phenderfynu ers yn agos i ddeg mlynedd ar hugain, pytiog ar y gorau yw monitro a gwerthuso effaith y broses gynllunio ar yr iaith Gymraeg o hyd.  Os yw Creu Lleoedd i’w farnu ar y gwerth ychwanegol mae’n ei roi i greu iaith Gymraeg sy’n ffynnu, mae angen gosod strwythurau ac adnoddau priodol yn eu lle – ar lefel genedlaethol, strategol a lleol – i fesur a gwerthuso’r cyfraniad hwnnw.

Yn bedwerydd, mae angen i Creu Lleoedd wneud defnydd llawnach a gwell o’i offer i fwyhau deilliannau – yn ogystal â lliniaru risgiau – fel y gwna mewn meysydd eraill fel bioamrywiaeth.  Er enghraifft, mae angen i gyfraniadau sylweddol, yn arbennig ym meysydd sensitifrwydd a / neu pwysigrwydd iaith, wella’r deilliannau.  Er enghraifft, gallai rhain fod ar ffurf cyfraniadau ariannol neu ddiriaethol tuag at greu ysgol cyfrwng Cymraeg, cefnogi rhwydweithiau Cymraeg eu hiaith, cyflogi ‘animateur’, neu strwythur(au) monitro a gwerthuso.  Hefyd, dylid annog datblygwyr cynigion annisgwyl sylweddol i gynllunio yn nhermau cynnydd o’r cychwyn cyntaf – yn ogystal â chynnwys gweithrediadau lliniarol – er mwyn ceisio gwneud eu datblygiadau’n dderbyniol.

Yn olaf, y pumed pwynt yw’r angen i sefydlu sut y gellir gwella a barnu ansawdd yr Asesiadau Effaith Iaith Gymraeg (AEIG), a gan bwy.  Yn ein cyflwyniad, fe wnaethom ddisgrifio cyfyngiadau’r fethodoleg prif lif gyfredol, “Cynllunio a’r iaith Gymraeg – y Ffordd Ymlaen”[5], a’n gwaith cychwynnol ar ddatblygu dull sy’n seiliedig ar Fframwaith Ansawdd Asesu a Rheoli Risg ISO31000(2009).  Yn nhermau helpu ACLlau i farnu asesiadau, mae hefyd angen corff awdurdodedig fel a geir yn asesiadau effaith meysydd fel llifogydd, ecoleg, yr economi, trafnidiaeth a’r tirlun.  Yn y pendraw, mae angen strwythur ar drefn asesu ansawdd, ac hyfforddiant a chanllawiau ymwybyddiaeth perthnasol ar gyfer ymarferwyr a defnyddwyr ACLlau.

Ffigwr 3 Esiampl o Fap ‘Gwres’ Asesiad Effaith Iaith Gymraeg

Ffynhonnell: IAITH /Burum (2019) Cynllun Datblygu Lleol Adnau Drafft Cyngor Sir Gâr Asesiad Effaith yr Iaith Gymraeg

Mae’r gwaith yr wyf wedi ei wneud gyda IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac ymarferwyr ac academyddion eraill wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar geisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol i fynd i’r afael â’r materion yma.  Rydym yn cydnabod bod angen llawer mwy o waith i ddod o hyd i ddatrysiadau effeithiol – ac yn ysbryd y Pum Ffordd o Weithio – rydym yn edrych ymlaen i greu a chrynhoi trafodaeth a ffordd o weithredu i sicrhau Creu Lleoedd, gan bod Iaith Gymraeg sy’n ffynnu o bwys.

Owain Wyn, B.Sc.(Econ), M.Sc., MBA, FRTPI

 

[1] Gweler y diwygiadau i Ddeddf Cynllunio a Phwrcasu Gorfodol 2004 (adrannau 60B(2), 60(8) a 62(6A))

[2] Llywodraeth Cymru (2017) Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr

[3] Swyddfa Ystadegau Gwladol Statistical Bulletin (2020) National population projections: 2018 based As corrected June 2020

[4] Llywodraeth Cymru (Medi 2020) Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040

[5] Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Ffederasiwn adeiladwyr Tai, awdurdodoau lleol ac eraill (2005) Cynllunioa’r iaith Gymraeg – y Ffordd Ymlaen