Skip to main content
Welsh Parliament

Planiffesto RTPI Cymru

Pwy ydyn ni?

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) yw'r corff proffesiynol mwyaf ar gyfer cynllunwyr trefi yn y DU ac Ewrop, ac mae'n cynrychioli tua 27,000 o aelodau mewn dros 80 o wledydd ledled y byd. Mae tua 1,300 o aelodau yng Nghymru. Mae'r Sefydliad wedi bod yn dylanwadu ar bolisïau cynllunio ac yn codi safonau proffesiynol ers dros 100 mlynedd, a dyma’r unig gorff yn y DU sy’n rhoi statws Siartredig i gynllunwyr, sef y cymhwyster proffesiynol uchaf. Mae'r RTPI yn hyrwyddo pŵer cynllunio wrth greu lleoedd llewyrchus a chymunedau bywiog.

Gweledigaeth ein Planiffesto

Ein gweledigaeth ni yw grymuso cynllunwyr i gyflawni newid cadarnhaol, gan greu lleoedd a chymunedau iach, cysylltiedig, cynhwysol a chynaliadwy. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen system gynllunio ffyniannus a chydnerth i Gymru sydd wedi’i hariannu’n llawn, sy’n cael ei harwain gan gynlluniau, sy’n ymatebol, yn effeithiol ac yn hygyrch.  

System gynllunio ffyniannus a chydnerth i Gymru sy’n cyflawni 

Mae cynllunwyr yn cydbwyso galwadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol er mwyn bodloni anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae cynllunwyr yn sbarduno newid cadarnhaol. Mae system gynllunio sydd wedi’i hariannu’n briodol yn hanfodol i gyflawni eich blaenoriaethau.

Y pethau allweddol y gofynnwn amdanyn nhw:

    • System uchelgeisiol ac ystwyth sydd wedi’i harwain gan gynlluniau, sy’n darparu sicrwydd i bob rhanddeiliad
    • Cymunedau ffyniannus mewn lleoedd sydd wedi’u dylunio’n dda gyda mynediad i gartrefi a seilwaith o ansawdd
    • Camau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur
System uchelgeisiol ac ystwyth sydd wedi’i harwain gan gynlluniau, sy’n darparu sicrwydd i bob rhanddeiliad
  • Cydnabod bod system gynllunio ag adnoddau priodol yn elfen allweddol o economi ffyniannus i Gymru
  • Annog ymgysylltu ystyrlon wrth greu cynlluniau a chreu lleoedd drwy gryfhau ymwybyddiaeth cymunedau o’r system gynllunio
  • Sicrhau bod penderfyniadau wedi’u seilio ar gynlluniau datblygu mabwysiedig sy’n gyfoes ac yn gyfrannol, sy’n darparu sicrwydd i fuddsoddwyr a chymunedau, sy’n cryfhau’r iaith Gymraeg, sy’n creu lleoedd iach ac sy’n bodloni anghenion cymunedau gwledig a threfol fel ei gilydd
  • Cwblhau’r gwaith ar godio deddfwriaeth gynllunio, a sbardunwyd gan Fil Cynllunio (Cymru) 2025
A coastal photograph of Conwy with the castle in view.
Cymunedau ffyniannus mewn lleoedd sydd wedi’u dylunio’n dda gyda mynediad i gartrefi a seilwaith o ansawdd
  • Blaenoriaethu mynd i’r afael â’r argyfwng tai fel dull cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at gartref addas, diogel a fforddiadwy. Mae tai o bob deiliadaeth yn seilwaith hollbwysig sy’n hanfodol i gyflawni ffyniant, twf a llesiant cymdeithasol a diwylliannol ar draws Cymru.
  • Ailgyflwyno targedau tai, monitro graddau cyflawni a gweithredu ymyraethau priodol pan nad yw targedau’n cael eu bodloni.
  • Creu corff cyflawni hyd braich i gronni tir a chydlynu datblygu. Sicrhau bod defnydd o dir, trafnidiaeth a seilwaith yn cael eu halinio o ran cynllunio, cyllido a chyflawni. 
Camau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur
  • Ymrwymo i ddull hirdymor a chyfannol o ran addasu i’r hinsawdd a phennu camau lliniaru, sy’n cael ei adlewyrchu mewn cynllunio ac mewn penderfyniadau buddsoddi ar ynni adnewyddadwy, gwella bioamrywiaeth ac addasu i risg llifogydd.
  • Darparu dull cenedlaethol neu ranbarthol o ran gwella ansawdd dŵr, gan egluro pa waith lliniaru sy’n dderbyniol i Gyfoeth Naturiol Cymru, sut y caiff ei ariannu, ei gyflawni a’i reoli yn yr hirdymor.
  • Rheoleiddio gwaith datblygu carbon isel/sero net yn y ffordd fwyaf effeithiol drwy ddiweddaru Rheoliadau Adeiladu. Bydd hyn yn symleiddio gwaith creu cynlluniau ac yn sicrhau cysondeb a sicrwydd i ddatblygwyr.
Drone photo of Chepstow including the river, houses, the Prince of Wales Bridge and the Severn Estuary.
Rhaid i’r holl ofynion uchod gael eu hategu gan ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynllunio a chynllunwyr i greu system gynllunio ffyniannus a chydnerth
  • Buddsoddi mewn cynllunio fel gwasanaeth cyhoeddus hanfodol i gyflawni eich blaenoriaethau
  • Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant gan gynnwys cynllunio digidol er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau
  • Sefydlu cynllun prentisiaeth a chefnogaeth i fwrsariaethau er mwyn tyfu’r llif cynllunwyr at y dyfodol
  • Creu prif gynllunydd statudol ar frig pob Awdurdod Cynllunio Lleol i eirioli dros gynllunio ym mhob penderfyniad

Cysylltwch â ni

Planiffesto ar gyfer etholiadau Senedd 2026, mae croeso i chi gysylltu â ni yma!