Argymhelliad 1: Sefydlu seinfwrdd
O ganlyniad i’w natur gydgysylltiedig, mae'n hanfodol bod effaith gweithredu'r argymhellion arfaethedig neu atebion eraill ar y darlun ehangach yn cael ei deall yn llawn. Nid oedd cwmpas yr ymchwil hwn yn cynnwys trafod na phrofi syniadau a chynigion y tu allan i'r sefydliadau sector cyhoeddus sy'n rhan o'r ymchwil hwn. Felly, rydym yn argymell seinfwrdd i drafod ymarferoldeb ac effaith gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad hwn. Dylai'r seinfwrdd gynnwys Fforwm Cynllunio RTPI Cymru (sy'n cynnwys cynrychiolaeth o ysgol gynllunio Prifysgol Caerdydd, PCAC, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW), RTPI Cymru, Fforwm Ymgynghorwyr Cynllunio Cymru ac Adran Gynllunio LlC) gyda gwahoddiadau ychwanegol i gynrychiolwyr o Gyd-bwyllgorau Corfforedig (CJCs), CNC a CLlLC.
Dylai RTPI Cymru fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn.
Argymhelliad 2: Sefydlu Gwasanaeth Gwella Cynllunio i Gymru
Gwasanaeth Gwella Cynllunio tebyg i'r gwasanaeth gwella llywodraeth leol annibynnol a sefydlwyd yn yr Alban (gweler Atodiad 7). Byddai'n cael ei arwain gan Hyrwyddwr Gwella Cynllunio annibynnol newydd ei greu a byddai'n::
- Datblygu a hyrwyddo arfer gorau ac effeithlonrwydd;
- Cefnogi adolygiad gan gymheiriaid a monitro perfformiad;
- Gwasanaethu fel canolfan wybodaeth ganolog ar gyfer y proffesiwn;
- Cefnogi arloesi a chydwasanaethau lle bo'n briodol.
Dylai Is-adran Cynllunio LlC fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn. Gallai’r gwasanaeth hwn gael ei gynnal gan CLlLC ond bydd angen darparu adnoddau ychwanegol.
Argymhelliad 3: Diffinio'r gwasanaeth cynllunio
Mae angen diffiniad clir, y cytunwyd arno ynghylch gwasanaethau cynllunio, gan egluro pa agweddau ar ddarparu gwasanaethau cynllunio sydd o fewn cwmpas i adennill costau llawn a pha agweddau ddylai barhau i gael eu hariannu'n ganolog gan wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael yn briodol ag adnoddau a chapasiti o fewn gwasanaethau cynllunio. Gallai hyn hefyd ddarparu sylfaen ar gyfer fframweithiau perfformiad yn y dyfodol, gan ei gwneud hi'n bosibl mesur canlyniadau ac effaith yn fwy cywir, nodi meysydd i'w gwella a dangos gwerth. Heb ddiffiniad clir, rydym mewn perygl o ddata anghyson o ganlyniad i ddulliau a chyd-destunau amrywiol ledled Cymru.
Dylai Is-adran Cynllunio LlC a POSW fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn.
Argymhelliad 4: Casglu a chyhoeddi data cynllunio o ansawdd
Ymrwymiad i fonitro capasiti'r gwasanaeth cynllunio yn rheolaidd (niferoedd staffio, nifer y swyddi gwag, ac arolwg sgiliau) gan ddefnyddio'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn fel llinell sylfaen, fel estyniad i'r fframwaith perfformiad cynllunio cenedlaethol a ailgychwynnwyd yn ddiweddar i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a gwydnwch hirdymor. Dylai hyn gynnwys adrodd ar incwm ffioedd fel cyfran o gostau gwasanaeth rheoli datblygu, swm yr incwm ffioedd cynllunio ychwanegol ers mis Rhagfyr 2025 a sut mae'r incwm ffioedd ychwanegol hwn wedi'i ail-fuddsoddi i wella'r gwasanaethau cynllunio a ddarperir. Bydd hyn yn datblygu sylfaen dystiolaeth gryfach a mwy manwl dros amser, gan gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a gwydnwch yn y tymor hir. Bydd hefyd yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ynghylch sut mae incwm ffioedd ymgeisio cynyddol yn cael ei ailfuddsoddi. Dylid adrodd ar y data hwn yn flynyddol ac mewn fformat digidol hygyrch. Mae'n hanfodol bod pob plaid yn cyflwyno'r data perthnasol os ydym am fesur iechyd parhaus y gwasanaeth cynllunio yn gywir.
Dylai Is-adran Cynllunio LlC a’r ACLlau fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn.
Argymhelliad 5: Datblygu strategaeth recriwtio a chadw staff
Dylid sefydlu strategaeth recriwtio a chadw gynhwysfawr ar gyfer cynllunio yng Nghymru gan edrych ar bob llwybr i dyfu'r llinell o gynllunwyr, gan hyrwyddo gwerth unigryw a manteision allweddol cynllunio fel gyrfa yng Nghymru. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad ariannol ac ymrwymiad sylweddol gan bob plaid er mwyn sicrhau'r cynnydd hanfodol yn lefelau adnoddau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad gan ACLlau i ailfuddsoddi'r incwm ffioedd ymgeisio ychwanegol sy'n deillio o gynnydd ffioedd Rhagfyr 2025.
Dylai'r strategaeth recriwtio a chadw gynnwys:
- Gwaith allgymorth i ysgolion i godi ymwybyddiaeth o gynllunio fel gyrfa ac adolygiad o TGAU yr Amgylchedd Adeiledig i sicrhau bod cynllunio yn cael ei amlygu fel llwybr gyrfa;
- Cymorth i unig ysgol gynllunio Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys drwy weithio mewn partneriaeth ar allgymorth, recriwtio, lleoliadau, cymorth i fentrau DPP ar gynllunio digidol a meysydd eraill o ddatblygu sgiliau;
- Creu llwybr prentisiaeth Lefel 7 ar hyd llinellau'r cynllun llwyddiannus sy'n gweithredu yn Lloegr (heb fwlch oedran), i ategu'r cynllun Llwybrau at Gynllunio;
- Cefnogi cyfleoedd ar gyfer trawsnewid i gynllunio yng nghanol gyrfa drwy wasanaethau fel Ymarfer Cyhoeddus.
Dylai CLlLC fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn mewn partneriaeth ag ysgol gynllunio Prifysgol Caerdydd, Awdurdodau Cynllunio Lleol a CJCs, CNC, PCAC, RTPI Cymru, Fforwm Ymgynghorwyr Cynllunio Cymru a LlC.
Argymhelliad 6: Cydwasanaethau
Canfu'r ymchwil enghreifftiau llwyddiannus o sgiliau a rennir yn gweithredu ar draws ACLlau yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau hyn wedi datblygu lle bo angen a chapasiti ar gyfer y gwasanaeth. I symud ymlaen, rhaid nodi'r cysyniad o gydwasanaethau drwy opsiynau clir ac wedi'u costio'n llawn sy'n nodi gofynion gan gynnwys capasiti. Heb y wybodaeth hon bydd cwestiynau’n parhau a gellir colli cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd a chydweithio. Gallai gwasanaethau cychwynnol gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Gwasanaeth asesu ac adolygu hyfywedd ledled Cymru. Bydd hyn yn cefnogi gwneud penderfyniadau cadarn gan ddefnyddio pecyn cymorth hyfywedd newydd Cymru gyfan, gan ddarparu arbenigedd a gwydnwch ar bwnc y mae cynllunwyr y sector cyhoeddus yn dweud eu bod yn teimlo nad oes ganddynt arbenigedd ynddo;
- Arweinyddiaeth ledled Cymru ar gynllunio digidol i archwilio a chyflwyno technoleg newydd a gwella sgiliau cynllunwyr, gan sicrhau arbedion maint posibl, darparu gwydnwch, gwneud y defnydd gorau o arbenigedd a darparu cysondeb ledled Cymru;
- Arbenigedd ledled Cymru ar asesu cydymffurfiaeth â pholisïau carbon isel a sero net, ac i sefydlu polisïau neu newidiadau i Reoliadau Adeiladu ledled Cymru;
- Arbenigedd ôl troed CJC ar brosiectau seilwaith mawr er mwyn helpu gydag Adroddiadau Effaith Lleol ar gyfer Prosiectau Seilwaith Sylweddol (SIP), yn ogystal ag ar ecoleg, tirwedd, gwasanaethau cyfreithiol, a thrafnidiaeth. Dylai'r elfen gwasanaethau cyfreithiol gynnwys archwilio'r potensial ar gyfer cytundebau Adran 106 safonol, arbenigedd ar orchmynion prynu gorfodol, a drafftio Hysbysiadau Gorfodi;
- Gwasanaethau rhanbarthol neu wasanaethau mwy na gwasanaethau lleol (isranbarthol) os oes angen ar gyfer treftadaeth ac SDCau;
- Niwtraliaeth maetholion/Byrddau Rheoli Maetholion ar sail dalgylch afon neu ACA forol.
Dylai ACLlau, CJCs a LlC fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn gyda chefnogaeth gan CLlLC a CNC.
Argymhelliad 7: Cynllunio Digidol
Mae gan ddefnyddio offer cynllunio digidol gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, lle bo'n foesegol ac yn briodol, y potensial i ryddhau cynllunwyr i gynllunio, gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a defnyddio barn ac arbenigedd dynol ar sail gwerthoedd. Rhaid ei ymgorffori yng nghanol y system gynllunio yng Nghymru, yn hytrach na'i ystyried fel elfen atodol o ddarparu gwasanaethau. Dylid ei flaenoriaethu a'i gydlynu a dylai gael ei lywio gan anghenion cynllunwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Bydd hyn yn gofyn am arweinyddiaeth a chydweithrediad cryf.
Dylai LlC (a fydd o fis Ebrill 2026 yn ymgorffori'r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol), RTPI Cymru, CLlLC a Phrifysgol Caerdydd fod yn gyfrifol am ddatblygu'r argymhelliad hwn.