Hyfforddiant ymgysylltiad cymunedol ar gyfer cynllunwyr
29-Apr-09
Yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn dosbarthu rhaglen o bump digwyddiad hyfforddi rhanbarthol un-dydd ar ymgysylltiad cymunedol a thechnegau cyfranogi ar gyfer cynllunwyr.
Ariannir y rhaglen hyfforddi ar y cyd gan Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Traddodir y rhaglen gan Gymorth Cynllunio Cymru mewn cydweithrediad â BDOR cyf, arbenigwyr mewn hyfforddiant cyfranogaeth. Amcan y cyrsiau yw creu amgylchiadau eglur, agored a chydymdeimladol sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltu’r cyhoedd mewn cynllunio. Byddant hefyd yn darparu ystod o declynnau a thechnegau ymarferol sydd ar gael i gynllunwyr sy’n ceisio cael cymunedau lleol i gymryd rhan mewn materion cynllunio.
Yn y cyrsiau bydd y cyfranogwyr yn cael:
- troslwog o ymarfer gorau cyfredol mewn ymgysylltiad cymunedol;
- cyfleoedd i weithio trwy broblemau a sefyllfaoedd ‘byw’, gan ddefnyddio fformadau ymarferol a rhyngweithredol;
- cyfle i weithio gydag ymarferwyr eraill i ddyfeisio prosesau cyfranogaeth sy’n effeithiol a realistig;
- dealltwriaeth well o sut i agor a chynnal sianelau cyfathrebu cynhwysol, dwy-ffordd.
- a’r sgiliau a’r hyder sy’n hanfodol i ddatblygu rhaglenni ymgysylltiad cymunedol effeithiol a hawdd eu trin nôl yn y gweithle.
I ganiatáu cynllunwyr ledled Cymru i ddod i’r hyfforddiant, cynhelir y cyrsiau un-dydd mewn pump lleoliad rhanbarthol fel a ganlyn:
- 17eg o Fehefin: Llanelwy, Sir Ddinbych
- 18fed o Fehefin: Swyddfa'r Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon
- 19eg o Fehefin: Swyddfeydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Aberhonddu
- 22ain o Fehefin: Prifysgol Caerdydd
- 23ain o Fehefin: Neuadd y Sir, Abertawe
Cynhelir pob cwrs rhwng 9.30yb a 4.30yp. Tra bydd y cyrsiau’n canolbwyntio ar faterion cynllunio awdurdodau lleol, mae croeso i gynllunwyr o unrhyw gefndir.
Cost y cyrsiau yw £40 yn unig.
Am fwy o wybodaeth, Cymorth Cynllunio Cymru yma, neu i archebu lle, llenwch y ffurflen archebu arlein.
- Author:
- policy rtpi
- Publisher:
- The Royal Town Planning Institute
- Date:
- 29-Apr-09
- Categories:
This article has been read 1362 times.

